Cynllun Strategol Y Gymraeg Mewn Addysg 2022-2031

Cynllun Strategol Y Gymraeg Mewn Addysg 2022-2031

Pam ydyn ni`n gwneud hyn?: 

Cyhoeddwyd strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru - Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr Cymraeg ym mis Awst 2017 gyda’r uchelgais o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ac i barhau i annog mwy o bobl i ddefnyddio a siarad Cymraeg yn eu bywydau bob dydd. Mae gan y system addysg statudol ran hanfodol i'w chwarae wrth gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg. Rhaid bod cynnydd sylweddol yn nifer y disgyblion sy'n cael cyfle i ddatblygu sgiliau Cymraeg yn yr ysgol a'r cyfle i'w defnyddio yn eu bywydau bob dydd er mwyn cyflawni'r nod hwn.

Mae gan bob awdurdod lleol ddyletswydd statudol i ddatblygu a chyhoeddi Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg (CSGA) sy'n ymateb i saith Blaenoriaeth Weinidogol (Deillianau) ac yn egluro sut y byddant yn datblygu ac yn cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg ar draws y sector addysg gyfan.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi ymrwymo i gefnogi, ehangu a hyrwyddo addysg gyfrwng Cymru yn y gymuned gyfan, gan gynyddu nifer a chanran y disgyblion sy'n derbyn addysg Gymraeg yn unol â Strategaeth Llywodraeth Cymru o ddatblygu dysgwyr sy'n gwbl dwyieithog. Mae'r CSGA hefyd yn cefnogi'n llawn y nodau a'r amcanion yn Strategaeth Iaith Gymraeg Cyngor Wrecsam.

Mae gennym darged trosfwaol heriol i gynyddu nifer y disgyblion sy'n cael eu haddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym yn cynnig nifer o gamau er mwyn cyflawni'r targed hwn.

Mae Fforwm y Gymraeg mewn Addysg a'i is-grwpiau, sy'n cynnwys rhanddeiliaid perthnasol, wedi cyfarfod yn ystod tymor yr haf i drafod, ymgynghori a gwahodd sylwadau tuag at ddatblygu drafft o’r cylch newydd.

Mae’r rheoliadau yn nodi bod angen ymgynghoriad cyhoeddus o ddim llai nag 8 wythnos cyn cyflwyno'r cynllun i Weinidogion Cymru i'w gymeradwyo erbyn 31 Ionawr 2022 fan bellaf.

Mae arnom angen eich sylwadau ynghylch ein camau gweithredu arfaethedig i gyrraedd ein targed trosfwaol.

Byddwch angen cyfeirio at y ddogfen ymgynghorol er mwyn ateb y cwestiynau.

Lawrlwythwch y ddogfen ymgynghorol o’r dudalen yma os gwelwch yn dda.

 

Cliciwch isod, os gwelwch yn dda, i gymryd rhan yn ein arolwg.

 

Beth ydym ni eisiau ei wybod?: 

Mae Fforwm y Gymraeg mewn Addysg a'i is-grwpiau, sy'n cynnwys rhanddeiliaid perthnasol, wedi cyfarfod yn ystod tymor yr haf i drafod, ymgynghori a gwahodd sylwadau tuag at ddatblygu drafft o’r cylch newydd.

Mae’r rheoliadau yn nodi bod angen ymgynghoriad cyhoeddus o ddim llai nag 8 wythnos cyn cyflwyno'r cynllun i Weinidogion Cymru i'w gymeradwyo erbyn 31 Ionawr 2022 fan bellaf.

Mae arnom angen eich sylwadau ynghylch ein camau gweithredu arfaethedig i gyrraedd ein targed trosfwaol.

Beth ddaeth i’r amlwg: 

Nid oedd consensws o’r ymatebion a gafwyd. Y prif bwyntiau dysgu oedd bod angen sicrhau mynediad haws i rieni i wybodaeth am ddewis addysg cyfrwng Cymraeg a mwy o gefnogaeth barhaus i’r rhieni sy’n gwneud y dewis hwnnw.

Pa wahaniaeth mae e wedi neud?: 

Mae ein Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg wedi’i ddiwygio i ymateb i’r sylwadau hyn

Dyddiad Cychwyn y Project 01 Tachwedd 2021
Dyddiad Cau'r Prosiect 31 Rhagfyr 2021