Pam ydyn ni`n gwneud hyn?: Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus Gosod Giatiau ar Lwybrau Queensway 2021
Mae’r Gronfa Strydoedd Mwy Diogel yn gronfa £25 miliwn, sydd ar gael i Gomisiynwyr Heddlu a Throsedd yng Nghymru a Lloegr yn 2020/21.
Gofynnwyd i Gomisiynwyr Heddlu a Throsedd weithio gyda phartneriaid i ddylunio a darparu cynlluniau atal troseddu lleol i geisio lleihau troseddau meddiangar (dwyn, byrgleriaeth neu debyg) drwy waith atal a gwneud i drigolion deimlo’n fwy diogel.
Pam Ward Queensway?
Wrth i ni edrych sut y gallem ni wneud cais am y cyllid yma i fod o fudd i breswylwyr yn Wrecsam, fe nodwyd lefelau uwch o droseddau megis byrgleriaeth yn yr ardal yma o’i gymharu â’r ffigurau ar gyfer gweddill y fwrdeistref sirol.
Er bod camau wedi’u cymryd yn flaenorol gyda’r heddlu a phartneriaid eraill i ostwng lefelau troseddu yn yr ardal, cymysg fu’r canlyniadau, ac nid ydynt yn gynaliadwy yn yr hir dymor.
Er mwyn cael dull mwy cynaliadwy i wella bywydau preswylwyr, fe wnaethom daro golwg fanylach ar beth y gellir ei wneud i leihau’r lefelau uwch o droseddu. Un ffactor y gallem wneud rhywbeth yn ei gylch oedd y rhwydwaith o strydoedd cefn yn yr ardal. Mae’r strydoedd cefn yma’n ddeniadol i droseddwyr sy’n eu defnyddio i fynd mewn ac allan o ardaloedd heb dynnu gormod o sylw i’w hunain na’u bwriad.
Wrth weithredu ei bwerau o dan Adrannau 59, 64 a 72 Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn dymuno gwneud Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus er mwyn cau’r llwybrau troed. Bydd preswylwyr a fydd yn cael eu heffeithio’n uniongyrchol pan fydd y llwybrau yn cau yn cael goriad er mwyn sicrhau bod ganddynt fynediad.
Llwybrau Troed arfaethedig i gael Giatiau
wrth ymyl 85/86 Bryn Hafod
wrth ymyl 94/95 Bryn Hafod
wrth ymyl 82 Cefndre.
wrth ymyl 89 Cefndre.
wrth ymyl 126 Cefndre.
wrth ymyl 59 Gwenfro i 66 Gwenfro
wrth ymyl 155 Gwenfro
wrth ymyl 37/38 Y Wern
Ynghlwm y mae Hysbysiad o’r Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus arfaethedig. Darllenwch y Gorchymyn, a gallwch nodi unrhyw sylw yn yr arolwg amgaeedig.
Beth ydym ni eisiau ei wybod?: Sylwadau lleol i caniatau ystyried y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus.
Beth ddaeth i’r amlwg: Atebodd nifer llai o bobl i'r ymgynghoriad na'r un o'r blaen. Fel ymateb i rai o'r sylwadau a gafwyd, gwnaed rhai ffactorau lliniarol. Adroddwyd am y sylwadau a wnaed gan breswylwyr mewn adroddiad i Fwrdd Gweithredol Wrecsam gyda chynigion y cytunwyd arnynt ar 9 Mawrth 2021.
Pa wahaniaeth mae e wedi neud?: Adroddwyd am ganfyddiadau'r ymgynghoriad i Fwrdd Gweithredol Cyngor Wrecsam a wnaeth benderfyniad ar 9 Mawrth i wneud y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (PSPO) ym mhob un o'r 8 lleoliad a gynigiwyd.
Dyddiad Cychwyn y Project
|
01 Chwefror 2021
|
Dyddiad Cau'r Prosiect
|
01 Mawrth 2021
|