Pam ydyn ni`n gwneud hyn?: Ar hyn o bryd mae gan Gyngor Wrecsam PSPO rheoli cŵn a baw cŵn sy'n cwmpasu'r Fwrdeistref Sirol gyfan. Disgwylir iddo gael ei adnewyddu wrth iddo ddod i ben ar 1 Mawrth 2020. Y bwriad yw adnewyddu a diweddaru'r PSPO cyfredol sy'n cwmpasu'r Fwrdeistref Sirol.
Byddai’r rheolau baw cŵn presennol i berchnogion glirio baw eu cŵn ar unwaith mewn mannau cyhoeddus, y parthau gwahardd cŵn ar lawntiau bowlio, caeau chwarae wedi’u marcio a mannau chwarae (heblaw am gŵn cymorth), cŵn ar dennyn trwy gyfarwyddyd sy'n caniatáu i Swyddogion Awdurdodedig orchymyn perchnogion i roi a chadw eu cŵn ar dennyn pan fo angen, cŵn i fod ar dennyn ar ffyrdd cyhoeddus a phalmentydd ac i’w cadw ar dennyn mewn mannau penodol o barciau megis canolfannau ymwelwyr a meysydd parcio, yn parhau.
Yn ogystal, cynigir cynnwys amod sy'n ei gwneud yn ofynnol i berson sy'n rheoli ci, fod yn cario cynhwysydd neu fag priodol i godi baw eu ci ar unwaith.
Felly, rydym ni’n cysylltu â chi fel rhan o'r broses ymgynghori ofynnol, ac yn eich annog i edrych ar y gwaharddiadau a awgrymir yn y gorchymyn amgaeedig a mynegi eich barn arnyn nhw.
Bydd y cyfnod ymgynghori yn dechrau ar 27 Ionawr 20202 ac yn cau ar 30 Chwefror 2020, felly sicrhewch fod unrhyw sylwadau yn cyrraedd cyn y dyddiad hwn.
Os hoffech chi roi adborth ar y gorchymyn arfaethedig yn ysgrifenedig, gan nodi pam eich bod o blaid neu yn erbyn y gorchymyn, anfonwch e-bost at: joanne.rodgers@wrexham.gov.uk neu trwy’r post at Y Prif Swyddog, Adran Gwasanaethau Amgylchedd a Thechnegol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Neuadd y Dref, Wrecsam, LL11 1RA
Fel arall, os oes gennych unrhyw sylwadau ynghylch y PSPO Rheoli Cŵn a Baw Cŵn, cliciwch yma.
Beth ddaeth i’r amlwg: Roedd yr ymgynghoriad statudol yn dynodi cefnogaeth eang ar gyfer cynigion i adnewyddu Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus Rheoli Cŵn a Baw Cŵn, gan gynnwys yr amod newydd ar gyfer unigolyn sy’n rheoli’r ci/cŵn i gario’r bag neu ddaliedydd priodol ar gyfer gwaredu unrhyw faw y bydd eu ci yn gadael. Mynegwyd rhai pryderon am y mathau penodol o fagiau y dylid eu cario, y gallu i orfodi’r amod yn effeithiol a diffyg darpariaeth biniau yn y Fwrdeistref Sirol.
Pa wahaniaeth mae e wedi neud?: Cafodd y Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus Rheoli Cŵn a Baw Cŵn ei adnewyddu, a chafodd yr amod newydd i’r unigolyn sy’n rheoli’r ci/cŵn i gario bag neu ddaliedydd priodol ar gyfer gwaredu unrhyw faw y bydd eu ci yn gadael, ei weithredu.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler Adroddiad y Bwrdd Gweithredol ar 8 Medi 2020.
Dyddiad Cychwyn y Project
|
30 Ionawr 2020
|
Dyddiad Cau'r Prosiect
|
27 Chwefror 2020
|