Penderfyniadau Anodd – Toriadau Pellach. Ymgynghoriad ar Gyllideb 2020/21

Penderfyniadau Anodd – Toriadau Pellach. Ymgynghoriad ar Gyllideb 2020/21

Pam ydyn ni`n gwneud hyn?: 

Oherwydd penderfyniadau'r llywodraeth, bu rhaid i Gyngor Wrecsam gwneud newidiadau enfawr i’r pethau rydyn ni’n eu gwneud a’r ffyrdd rydyn ni’n gweithio sy’n golygu ein bod wedi cwtogi dros £62 miliwn o’n cyllideb ers argyfwng economaidd 2007/2008 - mae hyn gymaint â 25% o’n cyllideb gyfredol o £237 miliwn ac mae’n golygu bod dros 600 yn llai yn ein gweithlu.  Rydym ni wedi gwneud hyn trwy fod yn fwy effeithlon ac rydym wedi ceisio peidio â lleihau cwmpas y gwasanaethau rydyn ni’n eu darparu lle bo modd. 

Yn anffodus, mae’r arian mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru’n ei roi i ni (sydd tua 3/4 cyfanswm ein cyllid) eisoes yn is na chyfartaledd Cymru y pen ac eleni rydym ni’n disgwyl mwy o ostyngiadau eto.  Rydym yn amcangyfrif y bydd diffyg o tua £9.8 miliwn yn yr hyn rydym ei angen dros y ddwy flynedd nesaf, a bydd angen £5.4 miliwn o hwn y flwyddyn nesaf.  Fodd bynnag, oherwydd ansicrwydd gyda gwleidyddiaeth a’r llywodraeth ar hyn o bryd, ni fyddwn yn gwybod yr union swm y byddwn yn ei gael tan fis Gorffennaf.  Mae hyn yn dibynnu ar beth mae Llywodraethau’r DU a Chymru’n ei benderfynu sy’n bwysig iddynt hwy – ond mae siawns y bydd y diffyg yn y gyllideb yn cynyddu i oddeutu £7.2 miliwn ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Yn syml, nid ydym bellach mewn sefyllfa lle gallwn barhau i wneud pob dim roeddem yn ei wneud pum mlynedd yn ôl ac rydyn ni bellach y tu hwnt i’r pwynt di-droi’n-ôl, sy’n golygu nad oes unrhyw ddewis arall ond stopio neu leihau gwasanaethau pan mae’r gyllideb yn cael ei chwtogi gymaint.  Oherwydd lefel y toriadau arnom gan Lywodraeth Cymru, mae’n rhaid i ni wneud penderfyniadau annychmygol a fydd yn effeithio ar drigolion.  Nid ydym ni eisiau gwneud hyn.

Byddwn yn parhau i lobïo Llywodraethau’r DU a Chymru tan maent yn sylweddoli na allant barhau i dorri ar wasanaethau cyhoeddus a byddwn yn gwneud pob dim o fewn ein gallu i gefnogi gwasanaethau rheng flaen, gan barhau i adolygu meysydd eraill i chwilio am unrhyw arbedion effeithlonrwydd sydd ar ôl.

Beth ydym ni eisiau ei wybod?: 

Bydd yr ymgynghoriad hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am rai o’r pethau rydyn ni eisoes yn eu gwneud i arbed arian neu gynyddu ein hincwm (byddwn wedi gofyn i chi am rai o’r rhain yn barod).  Byddwn hefyd yn egluro rhai o’n cynigion sydd gennym i wneud mwy o newidiadau. Mewn rhai meysydd, fel gofal cymdeithasol, rydym yn gallu datblygu a darparu gwasanaethau newydd sy'n cyflawni canlyniadau gwell am gost is (gweler yr adran ar bobl isod) mae'r rhain yn newidiadau cadarnhaol sy'n galluogi gwell ansawdd bywyd. Fodd bynnag, mewn llawer o feysydd nid ydym yn meddwl bod gennym fawr o ddewis ynghylch y toriadau arfaethedig, felly hoffem gael gwybod eich barn chi arnynt, a darganfod a oes gennych unrhyw syniadau eraill.  Rydym wedi cyflwyno’r cynigion hyn i chi o fewn pedair thema cynllun y Cyngor: Economi, Pobl, Lle a Threfniadaeth.

Tra byddwch chi’n rhoi eich barn ar yr hyn rydym wedi’i gynnig hyd yma, byddwn ni’n dal i weithio i geisio dod o hyd i hyd yn oed fwy o feysydd lle gallwn wario llai – rhag ofn bod y gyllideb mae Llywodraeth Cymru’n ei dyrannu i ni mor wael ag yr ydym yn disgwyl iddi fod.  Pan fyddwn yn darganfod faint o arian sydd gennym i’w ddefnyddio (ym mis Tachwedd), ni fydd digon o amser i ni ymgynghori eto gyda chi ar y gyllideb ar gyfer unrhyw gynigion ychwanegol.  Er hynny, byddwn yn sicrhau ein bod yn ymgynghori ac yn ymgysylltu â phobl a grwpiau a fydd yn cael eu heffeithio cyn cymryd unrhyw gamau.

Byddwn yn ystyried eich adborth chi ac adborth o ymgynghoriadau eraill sy’n cael eu cynnal ar gynigion unigol cyn y byddwn yn gwneud ein penderfyniad terfynol ar y gyllideb ym mis Chwefror 2020.  I roi gwybod i chi sut mae pob cynnig wedi datblygu, a sut mae eich barn chi wedi dylanwadu ar y penderfyniadau rydym wedi’u gwneud, byddwn yn cyhoeddi adroddiad dan y teitl ‘Dywedoch Chi, Gwnaethom Ni’.

Beth ddaeth i’r amlwg: 

Fe gymerodd mwy na 1,384 o bobl ran yn yr ymgynghoriad a lleisio eu barn am y cynigion a wnaethom, yn ogystal â rhai awgrymiadau eu hunain.

Hoffem ddiolch i bawb a gymerodd ran am roi o’u hamser.

Pa wahaniaeth mae e wedi neud?: 

Cyflwynwyd canlyniadau’r ymgynghoriad i’r Aelodau Etholedig er mwyn siapio’r penderfyniadau a wnaethant am gyllideb Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar gyfer 2020/21.

Dyddiad Cychwyn y Project 30 Medi 2019
Dyddiad Cau'r Prosiect 13 Tachwedd 2019