Pam ydyn ni`n gwneud hyn?: Senedd yr Ifanc yw Senedd Ieuenctid Wrecsam, rydym yn gweithio gyda phobl ifanc 11-25 oed i wella a gweithio ar faterion sy’n effeithio pobl ifanc yn Wrecsam.
Bob dwy flynedd, rydym yn ymgynghori gyda phobl ifanc Wrecsam i ganfod y prif faterion y bydd Senedd yr Ifanc yn gweithio arnynt yn 2020-2022.
Beth ydym ni eisiau ei wybod?: Bwriad y papur pleidleisio hwn yw darganfod beth yw’r materion sydd bwysicaf i chi, mae nifer o faterion mae pobl ifanc wedi eu hamlygu yn Senedd yr Ifanc.
Beth ddaeth i’r amlwg: Canlyniadau Pleidlais Eilflwydd Senedd yr Ifanc 2019
Mae Senedd yr Ifanc Wrecsam yn cynrychioli pobl ifanc yn Wrecsam.
Y flaenoriaeth yw sicrhau bod barn y bobl ifanc yn cael ei chlywed, yn arbennig pan fydd penderfyniadau’n cael eu gwneud sy’n effeithio arnynt. Er mwyn helpu i wneud hyn, mae Senedd yr Ifanc wedi gofyn i bobl ifanc Wrecsam beth oedd y materion pwysicaf oedd yn effeithio arnynt yn eu barn hwy. Bydd Senedd yr Ifanc yn gweithio ar y prif fater dros y ddwy flynedd nesaf.
Beth oedd ein casgliadau?
Roedd y bobl ifanc yn teimlo fod Ein Hamgylchedd - anelu at leihau plastigau untro a lleihau ein hôl troed carbon yn Wrecsam oedd y flaenoriaeth yr oedd pobl ifanc yn Senedd yr Ifanc am ganolbwyntio arni.
Pa wahaniaeth mae e wedi neud?: Mae’r ymgynghoriad wedi arwain at ddau ymgynghoriad arall i ddarganfod mwy am sut mae pobl ifanc am i Senedd yr Ifanc symud ymlaen. Bydd y ffocws terfynol ar lanhau cymunedau ac mae’r gwaith hwn bellach ar y gweill.
Dyddiad Cychwyn y Project
|
09 Medi 2019
|
Dyddiad Cau'r Prosiect
|
25 Hydref 2019
|