Pam ydyn ni`n gwneud hyn?: Dan Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983, mae gan y Cyngor ddyletswydd i rannu ei ardal i ddosbarthiadau etholiadol ac i ddynodi man pleidleisio i bob dosbarth. Hefyd mae’n rhaid adolygu’r trefniadau hyn. Cyflwynodd y Ddeddf Gweinyddiaeth Etholiadol 2006 ddyletswydd ar holl awdurdod lleol ym Mhrydain Fawr i adolygu ei ddosbarthiadau etholiadol a mannau pleidleisio.
Beth ydym ni eisiau ei wybod?: Mae’r Cyngor yn gwerthfawrogi cydweithrediad mannau pleidleisio am ddarparu eu hadeilad am y dydd fel y gall etholwyr gael rhywle addas i bleidleisio.
Mae’r Adolygiad yn ceisio mynd i’r afael â materion sydd wedi codi, naill ai oherwydd bod canolfannau cymuned ac ystafelloedd capel wedi cau, neu broblemau yn codi yn ystod etholiadau diweddar a byddant hefyd yn cael adborth gan staff yr orsaf bleidleisio a’r arolygwyr.
Dosbarth etholiadol yw ardal ddaearyddol a grëwyd gan yr isadran o ardal etholiadol h.y. etholaeth, ward dosbarth neu adran i ardaloedd llai.
Man pleidleisio yw adeilad neu ardal lle mae gorsafoedd pleidleisio yn cael eu lleoli.
Gorsaf bleidleisio yw’r ystafell neu ardal o fewn man pleidleisio lle mae’r pleidleisio’n digwydd.
Oherwydd bod adolygiad Comisiwn Ffin a Democratiaeth Leol (LDBC) o drefniadau etholiadol yn cael ei gynnal, mae adolygiad rhagarweiniol o ddosbarthiadau etholiadol cyfredol wedi’u cyflawni, ac oni bai bod unrhyw sylwadau wedi’u gwneud fel rhan o’r ymgynghoriad hwn, ni fydd newidiadau arfaethedig i ddosbarthiadau etholiadol yn cael eu cyflwyno ar yr adeg hon. Efallai y bydd rhaid cynnal adolygiad dros dro pellach o'r ardal gyfan yn dilyn cyhoeddiad o gynigion terfynol LDBC.
Cyfeiriwch at yr Hysbysiad a'r ddogfen ymgynghori sydd ynghlwm.
Dylid cyfeirio holl sylwadau at:
Tîm Craffu
Adran Cwsmer a Llywodraethu
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Neuadd y Dref
Wrecsam
LL11 1NF
neu drwy e-bost at: pleidleisio@wrexham.gov.uk
Beth ddaeth i’r amlwg: Cafodd yr ymatebion i’r ymgynghoriad eu hystyried mewn cyfarfod o’r Cyngor ar 18 Rhagfyr 2019. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r ardaloedd pleidleisio ond cytunwyd ar rai newidiadau perthnasol i rai gorsafoedd pleidleisio. Mae rhestr o’r newidiadau hyn a’r rhesymau drostynt wedi’i chynnwys yn y ddogfen isod. Gallwch weld yr adroddiad llawn yma – https://moderngov.wrecsam.gov.uk/ieListDocuments.aspx?CId=128&MId=4754
Mae’r rhestrau diwygiedig o ardaloedd a gorsafoedd pleidleisio wedi’u cynnwys yn y dogfennau isod.
Mae gorsafoedd pleidleisio eraill addas wedi eu clustnodi yn lle gorsafoedd nad ydynt bellach ar gael neu ddim yn addas erbyn hyn, a bydd y gorsafoedd newydd hyn yn rhoi gwell mynediad i drigolion yn ystod etholiadau’r dyfodol .
Pa wahaniaeth mae e wedi neud?: Mae gorsafoedd pleidleisio eraill addas wedi eu clustnodi yn lle gorsafoedd nad ydynt bellach ar gael neu ddim yn addas erbyn hyn, a bydd y gorsafoedd newydd hyn yn rhoi gwell mynediad i drigolion yn ystod etholiadau’r dyfodol .
Dyddiad Cychwyn y Project
|
09 Medi 2019
|
Dyddiad Cau'r Prosiect
|
11 Hydref 2019
|