Ymgynghoriad ar gyfer Cynllun y Cyngor 2020-22

Ymgynghoriad ar gyfer Cynllun y Cyngor 2020-22

Pam ydyn ni`n gwneud hyn?: 

Cynllun y Cyngor yw...

Cymeradwywyd Cynllun presennol y Cyngor yn 2017 ac mae’n cynnwys pedair thema:  Economi, Pobl, Lle a Sefydliad.  O dan bob un o’r themâu hyn, mae nifer o amcanion (cyfanswm o 14).   Mae’r Cynllun yn cael ei adolygu’n flynyddol ac ar ddiwedd 2018 trafododd yr Aelodau Etholedig bryderon fod y Cynllun yn rhy eang i ni ei ddarparu gyda chyllideb y Cyngor yn lleihau.   Mewn ymateb rydym wedi ceisio diffinio gweledigaeth gliriach ar gyfer pob un o’n themâu, adolygu ein strategaethau, prosiectau ac ymrwymiadau eraill ac yn awr wedi datblygu cyfres lai o flaenoriaethau, gyda mwy o ganolbwynt, i weithio arnynt eleni.   Mae’r rhain wedi’u diffinio gyda gweithgareddau clir a fydd yn brif ganolbwynt ar gyfer ein gwaith yn 2019/20, gan gyfrannu at ein blaenoriaethau a blaenoriaethau eraill a rennir gyda phartneriaid drwy Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Wrecsam.  

Y chwe blaenoriaeth hynny yw:

  • Datblygu’r economi
  •  Sicrhau Cyngor modern a chryf
  •  Sicrhau bod pawb yn ddiogel
  •  Gwella addysg uwchradd
  •  Gwella’r amgylchedd
  •  Hyrwyddo iechyd a lles da

Beth ydym ni eisiau ei wybod?: 

Mae'r ymghyghoriad hwn yn gyfle i ofyn i bobl beth yw eu barn ar ein chwe blaenoriaeth newydd fel Cyngor.  Y diben yw darparu gwybodeath ar gyfer ein gwaith ar gyfer 2019-20, a darparu gwybodaeth ar gyfer gwaith sy'n ymwneud a blaenoriaethau'r Cyngor o 2020-21 ymlaen.  Bydd y blaenoriaethau hefyd yn cael eu defnyddio i ddarparu gwybodaeth ar gyfer penderfyniadau ariannol pan fydd hynny'n briodol ac yn berthnasol.

 

 

Beth ddaeth i’r amlwg: 

Derbyniom 244 o ymatebion i’r ymgynghoriad hwn.  Er bod hwn yn ymateb siomedig o isel, nid yw’n annisgwyl o ystyried nad oeddem yn cynnig gwneud unrhyw doriadau na newidiadau penodol i wasanaethau.

Roedd y canlyniadau yn dangos cefnogaeth gyffredinol i’r blaenoriaethau, gyda sgôr pwysigrwydd o chwech neu fwy ar gyfer pob un ohonynt.

  • Gofynnwyd i bobl ddarllen disgrifiad o bob blaenoriaeth, oedd yn egluro’n fras beth oeddem yn bwriadu i bob blaenoriaeth ei olygu a’i gynnwys.  Gofynnwyd i bobl wedyn i ba raddau roeddynt yn cytuno gyda disgrifiad pob blaenoriaeth.  Roedd mwy o bobl yn cytuno nac yn anghytuno; gyda gwella addysg uwchradd yn derbyn y lefel uchaf o bobl yn cytuno (64.64%) a sicrhau cyngor modern a chryf yn derbyn y lefel isaf o bobl yn cytuno (40.18%).
  • Gofynnwyd i bobl wedyn ddarllen cyfres o bwyntiau bwled oedd yn rhoi manylion am ein gweithgareddau a’n meysydd allweddol o waith (yn y byr dymor a’r hir dymor).  Gofynnwyd i bobl i ba raddau roeddynt yn cytuno y byddai’r meysydd gwaith a’r gweithgareddau hynny yn cyfrannu tuag at nod y flaenoriaeth.  Roedd mwy o bobl yn cytuno nac yn anghytuno; gyda datblygu’r economi yn derbyn y lefel uchaf o bobl yn cytuno (68.93%) a sicrhau cyngor modern a chryf yn derbyn y lefel isaf o bobl yn cytuno (44.09%).
Pa wahaniaeth mae e wedi neud?: 

Darparwyd adborth i Fyrddau Rhaglen Blaenoriaethau’r Cyngor er mwyn helpu i  adolygu’r blaenoriaethau blynyddol ar gyfer 2019 i flaenoriaethau’r Cyngor ar gyfer Cynllun y Cyngor 2020 – 23. 

Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar gynllun drafft y Cyngor ar gyfer 2020-23 am chwech wythnos ym mis Chwefror ar Mawrth 2020.

 

Dyddiad Cychwyn y Project 12 Mehefin 2019
Dyddiad Cau'r Prosiect 24 Gorffennaf 2019