Lleisiwch eich barn am y toiledau sydd ar gael i’r cyhoedd ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam.

Lleisiwch eich barn am y toiledau sydd ar gael i’r cyhoedd ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam.

Pam ydyn ni`n gwneud hyn?: 

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gyfrifol am asesu anghenion y gymuned o ran toiledau a llunio cynllun i ymateb i’r canfyddiadau.  At ddibenion yr arolwg hwn a’r strategaeth, mae’r gair ‘toiled’ yn cynnwys ystafelloedd newid babanod a chyfleusterau lleoedd newid ar gyfer pobl anabl. Gellir dod o hyd i’r rhain mewn adeiladau cyhoeddus fel llyfrgelloedd a chanolfannau cymunedol, adeiladau preifat fel caffis a siopau, yn ogystal â thoiledau cyhoeddus y mae’r Cyngor yn eu rheoli. Mae’r Cyngor yn ceisio barn y trigolion lleol, pobl sy’n ymweld â’r Fwrdeistref Sirol a busnesau preifat.

Beth ydym ni eisiau ei wybod?: 

Mae’r arolwg yn ymdrin â’r ffactorau isod o ran barn ac anghenion y bobl:

  • asesu lleoliadau, gan gynnwys mannau poblogaidd;
  • asesu pa doiledau sydd ar gael a’u hygyrchedd, oriau agor, tâl am eu defnyddio, mynediad i bobl anabl, Lleoedd Newid a chyfleusterau newid babanod;
  • asesu cyflwr y cyfleusterau presennol;
  • ystyried ffactorau cymdeithasol, gan gynnwys y posibilrwydd fod toiledau’n
  • fannau gwael o ran camdriniaeth ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, neu fod pobl o dan argraff eu bod yn beryglus;
  • dadansoddi’r rhesymau dros ddefnyddio toiledau neu beidio â’u defnyddio, gan gynnwys ystyried unrhyw ymatebion a dderbynnir;
  • adnabod unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth bresennol o doiledau yn y Fwrdeistref Sirol.
Dyddiad Cychwyn y Project 14 Mehefin 2019
Dyddiad Cau'r Prosiect 30 Ionawr 2023

Cyswllt

Cyfeiriad llawn Cyswllt Ebost
Guildhall
Wrexham
LL11 1AR
Andrea Mach