Pam ydyn ni`n gwneud hyn?:
Beth
yw'r Map Llwybrau Teithio Llesol Presennol?
Mae Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yn gosod
dyletswyddau newydd ar awdurdodau lleol yng Nghymru i lunio a chyhoeddi mapiau
Teithio Llesol. Mae cam cyntaf y
Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol lunio 'Map Llwybrau
Presennol' y mae'n rhaid ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru i'w gymeradwyo erbyn
Ionawr 2016. Mae'r Map Llwybrau Presennol yn ymwneud ag ardaloedd penodol yng
Nghymru, sy'n cael eu dewis gan boblogaeth fel y nodir yn Neddf Teithio Llesol
(Cymru) 2013.
Nid yw’r Mapiau
Llwybrau Teithio Llesol Presennol yn dangos yr holl lwybrau beicio a cherdded
yn y Fwrdeistref Sirol. Dim ond y llwybrau
sy’n diwallu diffiniad llwybr Teithio Llesol sydd wedi’i nodi yn Neddf Teithio
Llesol (Cymru) 2013 sy’n cael eu cynnwys yn y map. Yn gryno
- Llwybrau sy’n addas ar gyfer cerdded a beicio (gan gynnwys defnyddio
sgwteri symudedd)
- Llwybrau sy'n dod o fewn lleoliadau neu setliadau cyswllt dynodedig a
bennwyd o fewn Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Sef: Yr Orsedd, Llai,
Sydallt, Gresffordd, Bradle, Tan-y-Fron, Wrecsam, Coedpoeth, Rhostyllen,
Rhosllannerchrugog, Rhiwabon, Trefor a'r Waun.
- Llwybrau sy'n cyd-fynd â diffiniad o 'Daith Teithio Llesol'. Yn fras mae hyn yn cynnwys teithiau a wneir nôl a blaen o
weithle neu sefydliad addysgol er mwyn cael mynediad at gyfleuster iechyd,
hamdden neu gyfleusterau gwasanaethau eraill.
- Llwybrau sy'n cael eu hystyried yn addas at y diben yn unol â gofynion
Canllawiau Dylunio Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 Llywodraeth Cymru.
Dyma’r amserlen a sefydlwyd gan Ddeddf Teithio
Llesol:
- 22 Ionawr 2016 - Cyflwyno'r mapiau llwybrau presennol i Lywodraeth
Cymru.
- 24 Medi 2017 – Cyflwyno’r map rhwydwaith integredig ac ailgyflwyno’r map
llwybrau presennol i Lywodraeth Cymru.
- 24
Medi 2020 - Ailgyflwyno’r map llwybrau presennol a’r map rhwydwaith integredig
i Lywodraeth Cymru.
Mae modd ddod o
hyd i ragor o wybodaeth am Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) a dogfennau gwybodaeth
perthnasol ar wefan Llywodraeth Cymru.
Beth ydym ni eisiau ei wybod?: Am beth mae’r ymgynghoriad yn sôn?
Mae'r ymgynghoriad hwn yn gyfle i'r cyhoedd
gymryd rhan wrth helpu i ddatblygu rhwydwaith o lwybrau Teithio Llesol yn
Wrecsam. Byddem yn croesawu
eich cyfraniad a byddwn yn ystyried eich barn a'ch awgrymiadau wrth helpu
sicrhau gwelliannau yn y rhwydwaith.
Cynhelir yr ymgynghoriad am 12 wythnos rhwng 28 Medi 2015 a 11 Rhagfyr.
Cofiwch, nid diben y Map Llwybrau Presennol yw
dangos yr holl lwybrau cerdded a beicio. Mae'n ymwneud â llwybrau presennol y mae’r
Awdurdod yn credu sy’n addas ar gyfer siwrneiau Teithiau Lleol o fewn y
gofynion a bennwyd gan Lywodraeth Cymru.
Beth
sydd angen i chi ei wneud i ymateb i'r ymgynghoriad?
Sicrhewch eich bod wedi darllen y wybodaeth
uchod ac yn cael cipolwg ar y Mapiau Llwybrau Teithio Llesol Presennol cyn ateb
yr holiadau ar-lein.
Yr Orsedd, Llai Sydallt, Gresffordd
Bradle, Tan-Y-Fron, Coedpoeth
Gogledd Tref Wrecsam, De Tref Wrecsam, Rhostyllen
Rhosllannerchrugog, Rhiwabon, Trefor
Y Waun
Llenwch holiadur ar-lein (Dolen)
I gael copïau papur o'r mapiau / holiadur
gallwch naill ai
e-bostio:
traffic@wrexham.gov.uk
ysgrifennu at: Ymgynghoriad
Teithio Llesol, Adran yr Amgylchedd, Depo Cludiant, De
Ffordd yr Abaty, Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam, Wrecsam, LL13 9PW
Dyddiad Cychwyn y Project
|
25 Medi 2015
|
Dyddiad Cau'r Prosiect
|
11 Rhagfyr 2015
|