Pam ydyn ni`n gwneud hyn?: Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn darparu nifer o wasanaethau i chi, p’un a ydych yn byw yma, yn gweithio yma, neu’n ymweld â’r ardal, megis ysgolion, casgliadau gwastraff, gofal cymdeithasol, tai cyngor, gwasanaethau cynllunio, ffyrdd, amgueddfeydd, parciau gwledig a safonau masnach.
Ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol yw bod yr holl bobl sy'n byw yma yn cael eu cefnogi i gyflawni eu potensial, ffynnu a chyflawni safon uchel o les. Byddwn yn arweinydd cymunedol cryf a chynhwysol i helpu i wneud i hyn ddigwydd.
Ein Cynllun y Cyngor
Y byddai Cynllun y Cyngor yn amlinellu beth fydd ein blaenoriaethau hyd at fis Mawrth 2023 i'n helpu i gyflawni ein gweledigaeth a chyfrannu at Nodau Lles Cymru. Dyma'r gwasanaethau y byddwn yn canolbwyntio fwyaf ar eu gwella ac y credwn fydd â'r budd mwyaf i chi os ydym yn eu gwneud yn iawn.
Byddwn yn parhau i gynnal gwasanaethau pwysig eraill, ond bydd manylion am y rhain wedi’u cynnwys o fewn ein cynlluniau busnes a gwasanaeth mewnol. Byddwn hefyd yn parhau i weithio ar feysydd allweddol sy’n ategu at ein gwaith ar draws y Cyngor – meysydd fel gwerth-dlodi, cydraddoldeb a’r Iaith Gymraeg.
Ein chwe blaenoriaeth yw:
- Datblygu’r Economi
- Sicrhau Cyngor modern a chryf
- Sicrhau bod pawb yn ddiogel
- Gwella addysg uwchradd
- Gwella'r Amgylchedd
- Hyrwyddo iechyd a lles
I ddarllen Cynllun drafft llawn y Cyngor, cliciwch yma.
Rhannwch eich barn â ni
Awgrymir mai’r chwe blaenoriaeth hyn fydd ein blaenoriaethau ar gyfer y tair blynedd nesaf, felly rydym yn awyddus i glywed eich barn chi ynghylch beth ddylai bob blaenoriaeth ganolbwyntio arno, i sicrhau bod eich barn yn cael ei gymryd i ystyriaeth wrth i ni lunio ein cynllun terfynol. Rydym hefyd yn awyddus i wybod eich barn am Gynllun y Cyngor yn gyffredinol, ac a ydych yn credu y bydd y cynllun yn ein helpu i gyflawni ein gweledigaeth, sef fod pobl sy’n byw yma yn derbyn cefnogaeth i ffynnu, cyflawni eu potensial a chyflawni lles o ansawdd uchel. Bydd yr ymgynghoriad yn agored o 4ydd o Chwefror tan 17eg Mawrth.
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Unwaith y bydd yr ymgynghoriad wedi cau, byddwn yn dadansoddi’r canlyniadau ac yn defnyddio’r canfyddiadau i gwblhau Cynllun terfynol y Cyngor 2020 – 2023, a gaiff i gyflwyno i’r Cyngor ym mis Mai 2020 i’w gymeradwyo. Byddwn yn sicrhau ein bod yn rhannu canlyniadau’r ymgynghoriad â chi bryd hynny.
Beth ddaeth i’r amlwg: Roedd yr arolwg yn gofyn i ymatebwyr ddarllen disgrifiad o bob blaenoriaeth ac o’r meysydd ffocws ar gyfer 2020-23. Roedd gofyn wedyn i’r ymatebwyr nodi i ba raddau yr oeddynt yn cytuno y byddai’r meysydd ffocws a nodwyd ar gyfer 2020-23 yn cyflawni pob blaenoriaeth.
Yn ogystal, roedd yn rhaid i’r ymatebwyr nodi i ba raddau yr oeddynt yn cytuno y byddai cyflawni'r chwe blaenoriaeth yn galluogi'r Cyngor i wireddu ei weledigaeth bod pawb sy'n byw ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam yn derbyn cefnogaeth i gyrraedd eu llawn botensial, i lwyddo ac i gyrraedd safonau byw uchel.
Cafwyd 98 ymateb. Mae hwn yn gyfradd ymateb isel ac ni wnaeth pawb ateb bob cwestiwn / cwblhau’r arolwg yn llawn. Rydym ni’n credu bod sawl rheswm dros hyn: oherwydd yr ymgynghoriad ynghylch y chwe maes blaenoriaeth yn ystod haf 2019; dim cynigion ar gyfer newidiadau neu doriadau penodol i wasanaethau; cynnal yr arolwg ar ddechrau’r sefyllfa ansicr mewn perthynas â'r coronafeirws.
Ar gyfer pob blaenoriaeth ceir meysydd ffocws clir a bu i nifer fawr o’r ymatebwyr gytuno’n gryf neu gytuno y byddai’r rhain yn cyfrannu at gyflawni’r flaenoriaeth. Yn ogystal, roedd mwy o bobl yn cytuno'n gryf neu’n cytuno na’r nifer a oedd yn anghytuno’n gryf neu’n anghytuno y byddai bron pob maes ffocws a nodwyd yn cyfrannu at gyflawni’r blaenoriaethau.
Y maes ffocws yr oedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr yn anghytuno’n gryf neu’n anghytuno y byddai’n cyflawni blaenoriaeth oedd ‘Y Gymraeg’ ar gyfer Blaenoriaeth 2 - Sicrhau Cyngor Modern a Chryf (30% yn anghytuno’n gryf neu’n anghytuno a 21% yn cytuno'n gryf neu’n cytuno). Mae hyn yn cyd-fynd â phroffil yr ymatebwyr - dim ond dau a nododd eu bod yn siarad Cymraeg. Mae’n rhaid i’r Cyngor, er hynny, fodloni’r gofynion deddfwriaethol sydd ynghlwm wrth y Safonau Iaith.
Mae adroddiad sy’n manylu ar y canfyddiadau ar gael yma.
Pa wahaniaeth mae e wedi neud?:
Mae dadansoddiad o’r sylwadau a dderbyniwyd yn cynnig amrywiaeth o awgrymiadau a syniadau ar sut y gellir cyflawni blaenoriaethau’r Cyngor.
Mae canfyddiadau’r arolwg wedi’u defnyddio i ddatblygu manylion y blaenoriaethau arfaethedig ymhellach. Roedd y Cyngor i fod i gymeradwyo’r cynllun yn ei gyfarfod ym mis Mai 2020 ond, oherwydd pandemig Covid-19, mae’r proses wedi’i hoedi a disgwylir i’r cynllun gael ei gymeradwy yn hydref 2020 rŵan. Bydd Cynllun y Cyngor, ar ôl iddo gael ei gymeradwyo, ar gael ar wefan y Cyngor.
Dyddiad Cychwyn y Project
|
04 Chwefror 2020
|
Dyddiad Cau'r Prosiect
|
17 Mawrth 2020
|