Penderfyniadau Anodd 2019/20

Penderfyniadau Anodd 2019/20

Pam ydyn ni`n gwneud hyn?: 

Mae gan Gyngor Wrecsam hanes o wneud toriadau - £33.8m yn y pum mlynedd diwethaf a bron i £60m ers i’r argyfwng economaidd ddechrau yn 2007/08. Llwyddwyd i wneud dros ¾ o’r rhain gan effeithio cyn lleied â phosibl ar y rhan fwyaf o’r cyhoedd a heb orfod lleihau’n sylweddol y dewis o wasanaethau rydym yn eu darparu. 

Fodd bynnag, rydym yn awr yn wynebu sefyllfa lle mae’n rhaid i ni leihau’r gwasanaethau hynny (h.y. pwynt tyngedfennol). Mae’r arian rydym yn ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru a llywodraeth y Deyrnas Unedig (sydd tua 3/4; o’n holl gyllid) eisoes yn is na’r cyfartaledd y pen yng Nghymru. Yn ogystal, rydym wedi cadw ein Treth y Cyngor yn isel ac rydym yn awr yn wynebu mwy o alw am ein gwasanaethau, fel gofal cymdeithasol i blant ac oedolion. 

Rydym wedi bod yn lobïo’r Llywodraeth, ynghyd ag Awdurdodau Lleol eraill Cymru, i gael cyfran decach o’i chyllideb gyffredinol. Yn anffodus, fe wnaethom glywed ar ddechrau mis Hydref nad ydym wedi derbyn digon o arian i’n galluogi i ddiwallu ein holl bwysau cyllidebol ar gyfer 2019/20, ac mae hyn yn gadael peryglon cyllidebol ar gyfer 2020/21. Felly, mae’n rhaid i ni ddod o hyd i £9m ychwanegol eleni i fantoli’r cyfrifon. Yn ogystal, ni allwn fforddio peidio ag edrych tua’r dyfodol, oherwydd hyd yn oed os byddwn yn gwneud popeth rydym yn ei gynnig yn y ddogfen hon, rydym yn rhagweld y bydd angen i ni wneud arbedion pellach gwerth swm tebyg yn 2020/21. 

Beth ydym ni eisiau ei wybod?: 

Roedd ymgynghoriad cyllideb y llynedd yn cynnwys nifer o gynigion ar gyfer 2019/20 (cyfanswm o bron i £4miliwn), ac felly ni fyddwn yn gofyn i chi eto am y rheini.  Rydym hefyd wedi amlinellu cynigion ychwanegol ar gyfer 2019/20, ac mae gwybodaeth bellach ar gael amdanynt yma.  Ychydig o effaith y bydd rhai o’r cynigion ychwanegol hyn yn eu cael arnoch chi, ac felly rydym eisiau defnyddio’r ymgynghoriad hwn i ofyn yn benodol i chi am eich barn ar: greu incwm, gwasanaethau gwastraff, gwasanaethau llyfrgelloedd, cludiant i'r ysgol a threth y cyngor.

Yn anffodus, oherwydd y setliad annheg rydym wedi ei gael gan Lywodraeth Cymru, mae’n bosibl na fydd gwneud y newidiadau hyn ar ben eu hunain yn ddigon a bydd yn rhaid i ni edrych ar newid yr hyn rydym yn ei wneud mewn meysydd eraill yn sylweddol.  Wrth i ni weithio i adolygu a thrawsnewid ein gwasanaethau, byddwn yn parhau i’ch cynnwys chi yn y trafodaethau hyn ar hyd y daith.

Rydym yn awyddus i glywed eich barn am yr holl gynigion sydd gennym ar hyn o bryd ar gyfer 2019/20; felly dywedwch wrthym beth yw eich barn.  Fwy nac erioed, rydym hefyd yn dymuno clywed eich syniadau am yr hyn y gallem ei wneud i gydbwyso'r gyllideb sydd gennym ac felly bydd cyfle ar y diwedd i chi roi unrhyw syniadau eraill sydd gennych i ni.

Beth ddaeth i’r amlwg: 

Ym mis Hydref a Thachwedd 2018, gofynnodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i’r cyhoedd yn Wrecsam gymryd rhan yn ymgynghoriad ‘Penderfyniadau Anodd’, er mwyn ein helpu i wneud y penderfyniadau sy’n rhaid i ni eu gwneud i arbed £9 miliwn yn 2019/20.

Roedd yr ymgynghoriad yn cynnwys arolwg a digwyddiad stondin farchnad. Bu i nifer o unigolion a grwpiau hefyd ymateb drwy anfon llythyrau/negeseuon e-bost. Bu i 3,350 o bobl gymryd rhan yn yr ymgynghoriad , a hoffwn ddiolch i’r bobl a’r grwpiau hynny a gymerodd ran.

Pa wahaniaeth mae e wedi neud?: 

Rhan bwysig iawn o unrhyw ymgynghoriad yw rhoi adborth i’r cyfranogwyr am yr hyn sydd wedi digwydd ers iddynt roi eu barn, a pha effaith mae eu barn wedi ei chael. Mae’r broses hon o roi adborth yn ymwneud â gallu dangos lle mae’ch safbwyntiau wedi effeithio’n uniongyrchol ar gynnig, a hefyd egluro bod adegau lle na allwn wneud popeth a awgrymodd y cyhoedd (ac egluro pam).

Felly, rydym yn cyflwyno’r adroddiad ‘Dywedoch Chi, Gwnaethom Ni’ i ddangos i chi beth yw’r penderfyniadau terfynol sydd wedi eu gwneud ar bob un o’r cynigion a gyflwynwyd i ymgynghori arnynt.

Os hoffech chi ddarllen yr holl fanylion am y cynigion a wnaed gan y Cyngor, a chanlyniadau’r ymgynghoriad, gallwch ddod o hyd i adroddiad llawn yn yma.

Dyddiad Cychwyn y Project 24 Hydref 2018
Dyddiad Cau'r Prosiect 28 Tachwedd 2018