Strategaeth ddrafft Treftadaeth Wrecsam 2018 - 2028

Strategaeth ddrafft Treftadaeth Wrecsam 2018 - 2028

Pam ydyn ni`n gwneud hyn?: 

Ymgynghoriad ar Strategaeth Dreftadaeth Wrecsam 2018 – 2028

Mae ein treftadaeth yn ‘adnodd penodol ac anhepgor’. Mae’n cynrychioli'r profiad a rennir rhyngom ni a’n cyndadau; mae’n darparu synnwyr o ddealltwriaeth o’r hunan a’r gymuned ac mae'n darparu gwersi ar gyfer y presennol a’r dyfodol. Mae treftadaeth hefyd yn yrrwr economaidd pwysig. Yng Nghymru mae’r sector yn cefnogi bron i 40,000 o swyddi, mae’n creu £749m ac mae ddwywaith maint, er enghraifft, y sector amaethyddol. Yn ei dro mae treftadaeth yn ffactor fawr yn llwyddiant Gogledd Cymru fel cyrchfan i ymwelwyr, a nodwyd yn ddiweddar fel y 4ydd lle gorau i ymweld ag ef yn y Byd gan Lonely Planet.

Cyhoeddodd Wrecsam ei Strategaeth Dreftadaeth ddiwethaf yn 2005. Roedd y strategaeth honno yn sefydlu gweledigaeth ar gyfer y dreftadaeth yr ydym yn ei rhannu er mwyn ‘Galluogi llawn botensial ein treftadaeth i ffynnu, fel y gall gyfrannu cymaint â phosibl a chyfoethogi pob agwedd ar fywyd yn y Fwrdeistref Sirol, er budd y trigolion lleol ac ymwelwyr fel ei gilydd’. Arweiniodd y strategaeth at sefydlu Fforwm Treftadaeth Wrecsam, sefydliad ambarél i gynrychioli ein holl grwpiau treftadaeth cymunedol, ers hynny mae wedi ei ymgorffori i Fforwm Treftadaeth Gogledd Ddwyrain Cymru.

Ers cyhoeddi’r strategaeth ddiwethaf, mae’r ‘oes o galedi’ wedi arwain at doriadau na welwyd eu tebyg o’r blaen mewn gwariant cyhoeddus, sydd wedi effeithio ar wasanaethau anstatudol fel treftadaeth. Yn Wrecsam rydym wedi gweld cau amgueddfeydd i’r cyhoedd yn y Mwynglawdd, Gwaith Haearn y Bers a Chanolfan Dreftadaeth y Bers gydag ystyriaeth yn cael ei roi hyd yn oed i'r potensial o drosglwyddo gwasanaethau treftadaeth oddi wrth reolaeth awdurdod lleol.

O ystyried y cyd-destun hwn, rydym yn datblygu strategaeth dreftadaeth newydd ar gyfer Wrecsam. Mae'r strategaeth newydd hon, Creu Cysylltiadau, yn ceisio annog sector treftadaeth sy’n wydn a chynaliadwy dwy geisio ymagwedd ar y cyd. . Yr amcan yn y pen draw yw i greu sector treftadaeth sy'n defnyddio treftadaeth yn effeithiol fel arf ar gyfer adfywio economaidd ac ar gyfer ymgysylltu. Ond yr hyn sy'n greiddiol i'r strategaeth yw ceisio sicrhau gwell cadwraeth a dehongli'r hyn sydd gennym yn well.  

Beth ydym ni eisiau ei wybod?: 

Rydym yn ceisio adborth am Strategaeth ddrafft Treftadaeth Wrecsam ar gyfer 2018 i 2028. Yn benodol, barn pobl am yr argymhellion a nodir yn y strategaeth: 

Ydych chi’n cytuno â’r argymhellion a nodir yn y strategaeth?

Ydych chi’n credu bod unrhyw beth ar goll y dylai’r strategaeth ei gynnwys?

Ydych chi’n credu bod unrhyw beth wedi’i gynnwys y dylai gael ei ddileu o’r strategaeth?

Oes unrhyw beth arall rydych chi’n credu sydd angen newid am y strategaeth?

I roi adborth, gallwch gymryd rhan yn yr arolwg ar-lein. 

Neu anfonwch eich sylwadau at Steve Grenter, Arweinydd Treftadaeth ac Archifau:

E-bost - steve.grenter@wrexham.gov.uk

Cyfeiriad post – Amgueddfa Wrecsam, Stryt y Rhaglaw, Wrecsam, LL11 1RB
steve.grenter@wrexham.gov.uk

Beth ddaeth i’r amlwg: 

Cytunodd y Bwrdd Gweithredol ar y Strategaeth Dreftadaeth ym mis Tachwedd. Cafwyd 31 ymateb i’r ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd ym mis Medi a mis Hydref.  Roedd hyn yn dangos cefnogaeth gref i’r prif argymhellion gyda rhwng 90 a 97% o’r ymatebwyr naill ai'n cytuno neu'n cytuno'n gryf â hwy. Rhoddwyd cyfle i ymatebwyr i roi sylwadau ar y fersiwn drafft o’r testun hefyd. Roedd enghreifftiau o’r sylwadau a gafwyd yn cynnwys, er enghraifft, cynnwys hanes merched, yr angen i gael dehongliadau canol tref, bod y strategaeth yn amwys a ddim yn cynnwys llawer o ysbrydoliaeth. Ac eithrio'r sylwad diwethaf, roeddem yn cytuno gyda'r rhan fwyaf o'r sylwadau a wnaed, er nad oedd yr un yn gofyn am newid tyngedfennol i'r fersiwn drafft o'r strategaeth gan eu bod eisoes wedi cael eu cynnwys, yn benodol neu'n amhenodol ynddo.

Dyddiad Cychwyn y Project 17 Medi 2018
Dyddiad Cau'r Prosiect 15 Hydref 2018