Pam ydyn ni`n gwneud hyn?: Oriel Wrecsam yw prif leoliad y Celfyddydau Cyfoes yng ngogledd Ddwyrain
Cymru, ac yno mae cartref Wrecsam Greadigol.
Rhai blynyddoedd yn ôl, nodwyd bod Oriel Wrecsam wedi tyfu’n rhy fawr i’w
leoliad presennol, a bod angen adeilad newydd yng nghanol y dref er mwyn
sicrhau y gellid cefnogi’r celfyddydau sy’n datblygu.
Yn 2014, yn dilyn gwaith ymchwil trylwyr, ac arfarniad o’r
dewisiadau, cytunodd Aelodau Etholedig Cyngor Wrecsam, mai’r dewis lleoliad ar
gyfer Man y Celfyddydau a Diwydiannau Creadigol fyddai lleoliad presennol
Marchnad y Bobl. Yn dilyn y penderfyniad
hwn, bu i Oriel Wrecsam adleoli i adeilad dros dro ar Stryt Caer yn rhif 11.
Cymerodd yr oriel y brydles i 12 Stryt Caer hefyd fel gweithle.
Yn 2015, cytunodd Cyngor
Celfyddydau Cymru i ariannu'r gwaith pensaernïol i ddarparu dyluniad manwl ar
gyfer Man y Celfyddydau a Diwydiannau Creadigol ym Marchnad y Bobl. Ar yr un pryd, ac er mwyn gweithio mewn
partneriaeth gyda’r gwaith hwn,
comisiynwyd cynllun busnes ar gyfer Oriel Wrecsam er mwyn sicrhau
cynaliadwyaeth y man newydd.
Beth ydym ni eisiau ei wybod?: In 2015, during the design process for Oriel Wrecsam, and taking into consideration the need for the Arts and Creative Industries Space to be sustainable if it progresses, all the partners engaged in the project need to make sure that there is a strong communications strategy; that there is wide engagement with the public, partners, stakeholders, market traders and business communities; that everybody recognises the benefits to Wrexham of increasing dwell time and footfall in the town centre and of attracting more visitors.
Beth ddaeth i’r amlwg: See results document below
Dyddiad Cychwyn y Project
|
28 Medi 2015
|
Dyddiad Cau'r Prosiect
|
10 Hydref 2015
|