Mapiau Rhwydwaith Integredig Drafft

Mapiau Rhwydwaith Integredig Drafft

Pam ydyn ni`n gwneud hyn?: 

Dan Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, mae gofyn i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam (ynghyd â phob Awdurdod Lleol arall yng Nghymru) gynhyrchu Map Rhwydwaith Integredig sy’n nodi rhaglen 15 mlynedd o welliannau. Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus i lywio datblygiad y Map Rhwydwaith Integredig yn cael ei gynnal yn ystod 2018. Defnyddir yr adborth a geir o’r ymgynghoriad i helpu llywio datblygiad y Mapiau Rhwydwaith Integredig.

Beth ydym ni eisiau ei wybod?: 

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn galw ar drigolion i fod yn rhan o ymgynghoriad trwy roi eu barn ar sut i wella llwybrau teithio llesol yn y Fwrdeistref Sirol.

Mae Teithio Llesol yn golygu cerdded a beicio ar gyfer siwrneiau dyddiol. Mae hyn yn cynnwys teithio i’r ysgol, i’r gwaith, i siopa neu i ddefnyddio gwasanaethau, er enghraifft, canolfannau iechyd neu ganolfannau hamdden. Nid yw teithio llesol yn cynnwys cerdded neu feicio at ddibenion hamdden.

Gall hyn olygu llwybr rydych eisoes yn ei ddefnyddio i gerdded neu feicio, y gellir ei wella i annog mwy o deithio llesol, neu lwybr nad yw’n bod eto, a fyddai’n helpu i annog mwy o bobl i’w ddefnyddio ar gyfer siwrneiau bob dydd, pe bai’n cael ei greu.

Bydd eich awgrymiadau’n cael eu hystyried a byddant yn rhoi gwybodaeth bwysig wrth ddatblygu’r Map Rhwydwaith Integredig, sef cynllun cerdded a beicio ar gyfer y Fwrdeistref Sirol a fydd yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru ym mis Awst 2018.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i http://www.wrexham.gov.uk/welsh/travel/active_travel.htm

Dyddiad Cychwyn y Project 23 Ebrill 2018
Dyddiad Cau'r Prosiect 16 Gorffennaf 2018