Pam ydyn ni`n gwneud hyn?: Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam angen strategaeth dai i ymateb i’r heriau o ddarparu tai ac mae ganddo fframwaith clir sy’n gosod y cyfeiriad ar gyfer tai i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Bydd Strategaeth Dai Leol 2018-2023 yn darparu gwybodaeth ar ddarpariaeth bresennol, y galw a’r prif ddylanwadau yn ogystal ag amlinellu’r hyn sydd ei angen ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Bydd y strategaeth yn cynnwys tair rhan. Bydd strategaeth un tudalen yn darparu penawdau’r hyn rydym yn dymuno ei gyflawni, bydd manylion pellach mewn llyfryn sy’n barhad o’r strategaeth un tudalen a Chynllun Gweithredu fydd yn manylu’r camau, targedau a mesurau sut y bydd y Cyngor yn cyflawni’r ymrwymiadau a amlinellwyd yn y strategaeth.
Mae’n bosibl y bydd angen adolygu’r Strategaeth yn ystod ei hoes er mwyn ymateb i unrhyw newidiadau mewn deddfwriaeth, cyllid ac adnoddau na ellir ei ragweld ar hyn o bryd.
Nid yw’r strategaeth hon yn ddogfen ar ben ei hun ac mae’n adlewyrchu'r blaenoriaethau yng Nghynllun Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Mae Cynllun y Cyngor a’r Strategaeth Dai Leol yn cefnogi ac yn seiliedig ar nifer o themâu mewn deddfwriaeth bresennol. Rydym yn sylweddoli nad yw strategaeth dai ynglŷn â ‘brics a morter’ yn unig. Mae’n ymwneud ag adfywio, ffyniant, dyheadau, twf economaidd a chefnogi pobl i fyw yn eu cartrefi a’u cymunedau.
Bydd y Strategaeth Dai Leol yn dilyn tair thema:
- Mwy o Dai, Mwy o Ddewis
- Gwella Tai a Chymunedau
- Gwell gwasanaethau i wella bywydau pobl
Beth ydym ni eisiau ei wybod?: Rydym yn croesawu eich mewnbwn a’ch barn ar yr hyn mae Wrecsam wedi’i ddiffinio fel ei amcanion i ddatblygu a siapio darpariaeth tai yn uniongyrchol ar gyfer y fwrdeistref sirol.
Dyddiad Cychwyn y Project
|
16 Ebrill 2018
|
Dyddiad Cau'r Prosiect
|
09 Mehefin 2018
|