Holiadur Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth

Holiadur Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth

Pam ydyn ni`n gwneud hyn?: 

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn cydnabod bod y wybodaeth a'r cyngor cywir; a roddir ar yr adeg iawn, yn gallu grymuso pobl i gyflawni canlyniadau cadarnhaol yn eu bywydau.

 

Ein gweledigaeth yw bod unrhyw oedolyn sydd am wella eu hannibyniaeth a'u lles yn gallu cael y wybodaeth a'r cyngor y mae arnynt eu hangen; pan fydd eu hangen arnynt, yn y ffordd y mae ei angen arnynt, lle bynnag maen nhw'n edrych.

 

Rydym am i'n trigolion gael y wybodaeth a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt i fyw bywydau diogel, egnïol, iach ac i allu byw'n annibynnol am fwy o amser. Un agwedd allweddol ar gyflawni'r canlyniad hwn yw bod gan drigolion fynediad hawdd i Wybodaeth, Cyngor a Chymorth. Mae Adran 17 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014 yn gosod dyletswydd ar yr awdurdod lleol i sefydlu gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth.

 

Beth ydym ni eisiau ei wybod?: 

I benderfynu ar y ffordd orau o ddarparu'r gwasanaeth hwn, mae Adran Gofal Cymdeithasol Oedolion Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn cynnal arolwg i geisio barn pobl sydd â phrofiad o ofyn am wybodaeth a chyngor yn Wrecsam. Rydym hefyd yn awyddus i glywed gan bobl nad ydynt wedi derbyn y gwasanaeth hwn ond efallai y bydd angen iddynt wneud hynny yn y dyfodol.

 

Bydd y wybodaeth o'r arolwg hwn yn cael ei ddefnyddio i lywio ein bwriadau comisiynu ar gyfer gwasanaethau Gwybodaeth a Chyngor ar draws y Sir dros y 5 mlynedd.

 

Byddem yn ddiolchgar iawn pe gallech gymryd yr amser i gwblhau'r arolwg hwn i ni. Os hoffech chi, gallwch ofyn i ffrind neu berthynas i'ch helpu i lenwi'r holiadur. Bydd eich atebion yn cael eu trin yn gyfrinachol ac ni fyddwch chi'n cael eich adnabod yn bersonol.

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch cwblhau'r arolwg neu os ydych chi'n dymuno derbyn yr arolwg mewn iaith arall; mewn print bras, neu mewn fformat arall, cysylltwch â Kimberley Mason ar (01978) 298618.

 

 

Diolch yn fawr iawn am eich cyfranogiad

 

Dyddiad Cychwyn y Project 12 Hydref 2017
Dyddiad Cau'r Prosiect 24 Tachwedd 2017