Bydd Datblygiad Marchnad y Bobl Oriel Wrecsam

Bydd Datblygiad Marchnad y Bobl Oriel Wrecsam

Pam ydyn ni`n gwneud hyn?: 

Bydd Datblygiad Marchnad y Bobl Oriel Wrecsam yn adnodd cymunedol diwylliannol a fydd yn dwyn y celfyddydau a marchnadoedd ynghyd o dan yr un to. Bydd hyn yn dathlu arwyddocâd marchnadoedd yn nhreftadaeth a hunaniaeth ddiwylliannol Wrecsam.

Bydd y datblygiad yn ofod newydd ar gyfer trafod pynciau fydd yn cynnwys materion cymdeithasol a dinesig, yr amgylchedd, iechyd, hunaniaeth ddiwylliannol, cynaliadwyedd ac addysg.

Byddwn yn cyflwyno rhaglen gyfoes o arddangosfeydd croesawgar a chynhwysol, prosiectau sy’n cynnwys y gymuned a pherfformiadau byw. Bydd pwyslais y rhaglen ar sgiliau a chrefft, gan weithio gydag artistiaid newydd ac artistiaid sydd wedi’u sefydlu o bob cefndir.

Beth ydym ni eisiau ei wybod?: 

Yn dilyn proses oedd yn cynnwys gweithdai a chyfarfodydd ymchwilio i enwau mae tri enw newydd posib ar gyfer y datblygiad hwn.

Dyddiad Cychwyn y Project 03 Gorffennaf 2017
Dyddiad Cau'r Prosiect 03 Awst 2017