Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus Rheoli Cŵn a Baw Cŵn Arfaethedig 2

Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus Rheoli Cŵn a Baw Cŵn Arfaethedig 2

Pam ydyn ni`n gwneud hyn?: 

Mae gan Gyngor Wrecsam dri Gorchymyn Rheoli Cŵn ar waith ar draws y Fwrdeistref Sirol neu mewn ardaloedd penodol:-

  • Gorchymyn Baeddu Tir Gan Gŵn (CBSW) 2009
  • Gorchymyn Gwahardd Cŵn (CBSW) 2009
  • Gorchymyn Cyfarwyddyd Cŵn ar Dennyn (CBSW) 2009

Cynhaliwyd ymgynghoriad anffurfiol ar y Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus  rhwng 21 Mawrth a 26 Mehefin 2016. Roedd arolwg ar gael i'w lenwi ar-lein neu ar bapur, a dosbarthwyd copïau ohono yn y Canolfannau Ymwelwyr a bu i staff y parciau gyfweld ag ymwelwyr i gael eu barn trwy ddefnyddio'r holiadur safonol. Rhoddwyd posteri i Gynghorau Cymuned eu gosod ar eu hysbysfyrddau i annog y gymuned leol i gymryd rhan yn yr arolwg. Derbyniwyd 871 o ymatebion i’r arolygon ar-lein ac ar bapur.

Y bwriad yw disodli'r gorchmynion presennol gyda Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus newydd sy'n cynnwys y Fwrdeistref Sirol gyfan. Byddai’r rheolau presennol mewn perthynas â chŵn, sef bod yn rhaid i berchnogion glirio baw eu cŵn mewn mannau cyhoeddus; na chaniateir cŵn (ac eithrio cŵn cymorth) o fewn parthau gwahardd cŵn ar lawntiau bowlio, caeau chwarae wedi’u marcio a mannau chwarae; a bod yn rhaid i gŵn fod ar dennyn ymhob man perthnasol, gyda Swyddogion Awdurdodedig yn gallu gorchymyn perchnogion i roi eu cŵn ar dennyn pan fo angen, yn parhau. Mae canlyniadau'r ymgynghoriad cyhoeddus anffurfiol yn dangos bod yna gefnogaeth i'r ymagwedd hon.  

Mae adran fwy dadleuol y Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus yn ymwneud â rheoli cŵn yn y parciau a chadw cŵn ar dennyn ar hyd ffyrdd cyhoeddus a phalmentydd. Roedd yr ymateb i’r ymgynghoriad ar y rhan hon o'r gorchymyn arfaethedig yn gefnogol iawn i rywfaint o reoli cŵn mewn ardaloedd dynodedig yn y parciau megis o amgylch canolfannau ymwelwyr a meysydd parcio (fel Parc Gwledig Tŷ Mawr a Pharc Gwledig Dyfroedd Alun), ond na ddylai cŵn fod ar dennyn ymhob rhan o’r parciau. Roedd cefnogaeth gref i gadw cŵn ar dennyn ar hyd ffyrdd cyhoeddus a phalmentydd.

Beth ydym ni eisiau ei wybod?: 

Felly, rydym ni’n cysylltu â chi fel rhan o'r broses ymgynghori ofynnol, ac yn eich annog i edrych ar y gwaharddiadau a awgrymir yn y gorchymyn amgaeedig a mynegi eich barn arnyn nhw.

Bydd y cyfnod ymgynghori ar agor ar 10 Hydref 2016 a bydd yn cau ar 11 Tachwedd 2016, felly sicrhewch eich bod yn cyflwyno eich sylwadau cyn y dyddiad cau

Os hoffech chi roi adborth ar y gorchymyn arfaethedig yn ysgrifenedig, gan nodi pam eich bod o blaid neu yn erbyn y gorchymyn, anfonwch e-bost at: martin.howarth@wrexham.gov.uk  neu lythyr drwy'r post at: Pennaeth Adran yr Amgylchedd a Chynllunio, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Ffordd yr Abaty, Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam, Wrecsam, LL13 9PW.

Fel arall, os oes gennych unrhyw sylwadau ynglŷn â'r Rheoli Cŵn arfaethedig a Baw Cŵn GGMC, yna cliciwch yma.

Beth ddaeth i’r amlwg: 

Roedd yr adborth yn ddefnyddiol iawn wrth lunio’r polisi y bu i’r aelodau ei fabwysiadu ar gyfer y Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus newydd mewn perthynas â rheoli cŵn a baw ci.

Mae canlyniadau’r ymgynghoriad cyhoeddus anffurfiol fel a ganlyn: cafwyd 871 o ymatebion. Cafodd tua 69% ohonynt eu cyflwyno gan berchnogion cŵn ac roedd y mwyafrif yn byw yn Wrecsam. Pan ofynnwyd iddynt sgorio’r cynigion gorfodi, rhoddwyd y gefnogaeth fwyaf i reoli baw ci, ac yna i wahardd cŵn o gaeau chwarae, llefydd chwarae plant a lawntiau bowlio. Y trydydd mater a gafodd y gefnogaeth fwyaf oedd cadw cŵn ar dennyn ar hyd ffyrdd cyhoeddus a phalmentydd. Roedd yna gefnogaeth gref (86%) i gadw’r ardaloedd sydd wedi eu cynnwys yn y Gorchmynion Rheoli Cŵn presennol, mannau gwahardd a rhoi cŵn ar dennyn pan ar gais swyddog awdurdodedig. Roedd cefnogaeth gref i gadw cŵn ar dennyn ar hyd ffyrdd cyhoeddus a phalmentydd (89%). Teimlodd y mwyafrif (68%) o’r ymatebwyr hefyd na ddylai cŵn gael eu cadw ar dennyn mewn mannau agored a pharciau bob amser. Ond roedd cefnogaeth gref i gadw cŵn ar dennyn mewn ardaloedd penodol yn y parciau, megis o amgylch canolfannau ymwelwyr a meysydd parcio (76%).

Pa wahaniaeth mae e wedi neud?: 

Mae’n amlwg o’r adborth bod cefnogaeth gref i gadw cŵn ar dennyn ar hyd palmentydd wrth ymyl ffyrdd a chael rhyw fath o reolaeth cŵn o amgylch canolfannau ymwelwyr y parciau gwledig, ond nid yn y parciau eu hunain. Mae’r adborth wedi ei ddefnyddio i lunio adroddiad ar y Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus, a bu i’r aelodau ystyried canlyniadau’r ymgynghoriad cyhoeddus. Roedd hyn yn rhan bwysig o lunio’r gorchymyn terfynol. Mae’r gorchymyn wedi ei fabwysiadau, a bydd yn dod i rym ar 1 Mawrth 2017.

Dyddiad Cychwyn y Project 10 Hydref 2016
Dyddiad Cau'r Prosiect 11 Tachwedd 2016