Pam ydyn ni`n gwneud hyn?: Mae Bwrdd Cyflawni Partneriaethau Tri Wrecsam (PDB3) yn dod ag asiantaethau at ei gilydd gyda'r nod cyffredinol o "Wneud Wrecsam yn lle sy'n ddiogel a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu cynnwys".
Tra bod y gwaith aml-asiantaethol a gynhelir gan PDB3 yn cael ei lywio i ddechrau gan gynlluniau a gyhoeddir gan Fwrdd Cymunedau Diogelach Gogledd Cymru a Chomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, y bobl leol sydd yn y sefyllfa orau i ddweud wrthym a ydym wedi cael ein blaenoriaethau’n gywir.
Drwy ymateb i’r arolwg hwn, byddwch yn helpu PDB3 i:
• Arfarnu ei effeithiolrwydd
• Asesu a yw ei waith aml-asiantaeth yn mynd i'r afael â'r pethau sy'n gwneud i bobl leol deimlo'n anniogel
• Nodi lle gall gymryd y camau mwyaf ymlaen tuag at "Wneud Wrecsam yn lle diogel a lle mae pawb yn teimlo wedi’u cynnwys."
Beth ydym ni eisiau ei wybod?: Carem wybod:
- Os ydych yn teimlo’n ddiogel o fewn Bwrdeistref Sirol Wrecsam
- Am y pethau sy’n eich gwneud chi deimlo’n anniogel
- Yr hyn sy’n fwy tebygol o’ch gwneud chi deimlo’n ddiogelach
- Pa mor gyffredin yw trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn eich hardal chi
Dyddiad Cychwyn y Project
|
28 Tachwedd 2016
|
Dyddiad Cau'r Prosiect
|
03 Ebrill 2017
|