Y Wrecsam a Garem

Y Wrecsam a Garem

Pam ydyn ni`n gwneud hyn?: 

‘Da ni’n gweithio ar gynllun a fydd yn siapio Bwrdeistref Sirol Wrecsam rŵan ac yn y dyfodol.  Bydd yn effeithio ar eich bywyd chi.  Bywyd eich plant. Bywyd eich wyrion hyd yn oed.

Felly mae angen i ni wneud hyn yn iawn.

Dim ond ar y camau cynharaf yda’ ni, ond cyn i ni fynd dim pellach mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod ni’n deall be’ sy’n bwysig i Wrecsam.  Be’ ydi’r heriau a’r problemau.  Y pethau sy’n effeithio arno’ ni a’r pethau sy’n bwysig i ni.

Dyna pam ‘da ni angen eich help chi.

Beth ydym ni eisiau ei wybod?: 

‘Da ni isio i bobl sy’n byw ac yn gweithio yn Wrecsam edrych ar y materion ‘da ni wedi’u hamlygu a deud wrtho’ ni os mai dyma ydi’r pethau sy’n wirioneddol bwysig.

Wnaethon ni’ch clywed chi’n iawn?

Mae ein dealltwriaeth ni wedi ei seilio ar waith wnaethon ni yn ystod hydref 2016.  

Mi wnaethon ni ofyn cwestiwn syml iawn i bawb: “Be’ da chi isio i Wrecsam fod?” 

Mi wnaethon ni hefyd ofyn beth allai rwystro hynny rhag digwydd.  A be’ sydd ei angen ar wasanaethau cyhoeddus a chymunedau er mwyn gwneud i hyn ddigwydd.

Cafodd yr atebion a gawson ni gan bobl eu cyfuno gydag adborth a gwybodaeth arall  er mwyn cynhyrchu Asesiad Lles Wrecsam.   

Byddwn yn defnyddio’r Asesiad er mwyn datblygu cynllun ar gyfer Bwrdeistref Sirol Wrecsam a fydd yn amlinellu sut y bydd pawb yn gweithio gyda’i gilydd i greu ‘Y Wrecsam ‘Da Ni Isio.’

Ond cyn i ni ddechrau cynllunio, ‘da ni am sicrhau ein bod ni wedi adnabod y pethau y mae pobl yn poeni fwyaf amdanyn nhw.

Dyna pam ‘da ni isio i chi ddweud wrtho’ ni os ‘da ni wedi amlygu’r  pethau sy’n  wirioneddol bwysig i chi.

Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol

Mae ‘na gynlluniau di-ri. Ydi Wrecsam wir angen un arall?

Wel ydi.  Nod ‘Y Wrecsam ‘Da Ni Isio’ ydi creu rhywle da’ ni i gyd isio byw ynddo – rŵan ac yn y dyfodol. 

Fel gweddill y DU, ‘da ni’n wynebu nifer o heriau mawr yng Nghymru.  Pethau fel tlodi, problemau economaidd, poblogaeth sy’n heneiddio a newid yn yr hinsawdd.

 

Felly mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn gyfraith newydd sy’n ceisio annog gwasanaethau cyhoeddus a chymunedau i gydweithio er mwyn taclo’r heriau hyn a gwella dyfodol hirdymor Cymru. 

 

Mae’r Ddeddf yn rhoi sylw i bethau fel cyflogaeth, yr amgylchedd, iechyd, cydraddoldeb, cymunedau, diwylliant, yr iaith Gymraeg a’n heffaith o amgylch y byd.

Gwneud i hyn ddigwydd

Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Wrecsam (BGC Wrecsam) ydi’r grym y tu ôl i’r cynllun.

‘Da ni’n bartneriaeth sy’n cynnwys llawer o sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau ar draws y fwrdeistref sirol.

Er enghraifft y Cyngor, gwasanaethau iechyd, gwasanaethau tân ac achub, Cyfoeth Naturiol Cymru, yr heddlu, y Gwasanaeth Prawf. Prifysgol Glyndŵr a Choleg Cambria, AVOW a Llywodraeth Cymru.

‘Da ni isio gweithio efo pobl leol i ddatblygu’r cynllun  hirdymor hwn ar gyfer Wrecsam a helpu i roi Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol ar waith yn ymarferol.

Ond nid mater o ‘ofyn unwaith a cherdded i ffwrdd’ ydi hyn.  ‘Da ni wedi gofyn am eich barn chi.  Rŵan ‘da ni isio i chi wneud yn siŵr ein bod ni wedi deall yn iawn.

Yda’ ni wedi adnabod prif broblemau, heriau, cryfderau a gwendidau Wrecsam?

Wnaethon ni’ch clywed chi’n iawn? Oes ‘na rywbeth ‘da ni angen ei newid? Os ‘na rywbeth ‘da ni wedi ei fethu?

Mae eich llais chi’n bwysig

Mae'r arolwg yn agor Dydd Llun,16 Gorffenaf a’r dyddiad cau ar gyfer ymateb yw Dydd Llun 27 Chwefror, 2017.

Am wybodaeth bellach am yr ymgynghoriad ewch i wefan Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus – http://www.bgcwrecsam.org/y-wrecsam-a-garem

Dyddiad Cychwyn y Project 10 Hydref 2017
Dyddiad Cau'r Prosiect 02 Ionawr 2018