Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant 2017

Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant 2017

Pam ydyn ni`n gwneud hyn?: 

Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ddyletswydd statudol dan Ddeddf Gofal Plant 2006 i sicrhau hyd y bo’n rhesymol ymarferol, bod gofal plant digonol ar gael i blant 0-15 mlwydd oed (a 15-17 mlwydd oed yn achos plant anabl) i ateb gofynion rhieni/gofalwyr sy’n gweithio, neu rieni/gofalwyr sy’n cael addysg neu hyfforddiant a fydd yn arwain at waith.

 

Yn hanfodol i’r ddyletswydd hon mae’r gofyniad i gwblhau Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant bob tair blynedd. Amcan yr Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant yw canfod unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth gofal plant a nodi camau gweithredu i gau’r bylchau hyn gan symud tuag at sefyllfa o ‘ddigonolrwydd’ ledled y Fwrdeistref Sirol.

Beth ydym ni eisiau ei wybod?: 

Er mwyn cwblhau Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant 2017 – 2021 rydym yn chwilio am safbwyntiau rheini a gofalwyr. Rydym eisiau clywed gan y rhai sy'n defnyddio gofal plant ar hyn o bryd, y rhai sy’n dymuno ei ddefnyddio yn y dyfodol a'r rhai nad ydynt yn ei ddefnyddio. Rydym yn gobeithio cael gwybod faint o ofal plant y maent yn ei ddefnyddio a pha fath o rieni sy’n ei ddefnyddio; y gwerth y maent yn ei weld ynddo; pam nad yw rheini’n ei ddefnyddio a beth yw'r rhwystrau, os oes rhai, i'r rhai a hoffai ddefnyddio gofal plant.

 

Bydd hyn yn ein helpu i ddeall pa fylchau sydd a pha bethau sydd angen i ni eu gwneud er mwyn ateb gofynion rhieni, gofalwyr a phlant.

Dyddiad Cychwyn y Project 01 Awst 2016
Dyddiad Cau'r Prosiect 02 Rhagfyr 2016