Pam ydyn ni`n gwneud hyn?: Ers llofnodi Cyfamod Cymuned y Lluoedd Arfog (AFCC) yn Ebrill 2013, mae partneriaid yn Wrecsam yn ymroddedig i sicrhau nad yw personél Lluoedd Arfog y gorffennol a'r presennol, a'u teuluoedd, mewn unrhyw ffordd o dan anfantais pan ddaw i gael gafael ar wasanaethau cyhoeddus a masnachol, a chyfleoedd er enghraifft, cyflogaeth, tai, addysg a gofal iechyd.
Bydd yr arolwg hwn yn ein helpu i ddangos faint o bobl sy’n perthyn i Gymuned y Lluoedd Arfog Wrecsam, a sut y maent yn dymuno cael eu gwasanaethu gan y Cyfamod.
Beth ydym ni eisiau ei wybod?: Rydym ni eisiau gwybod:
- Maint a lledaeniad Cymuned Lluoedd Arfog Wrecsam, oherwydd ni gesglir data ynghylch personél y Lluoedd Arfog yn ehangach.
- A oes unrhyw faterion y mae Cymuned y Lluoedd Arfog yn Wrecsam yn eu hwynebu yn aml?
- A ydych chi’n dymuno cymryd rhan mewn arolygon a fforymau eraill a fydd rhoi gwybod am ffocws gwaith CCLlA?
Dyddiad Cychwyn y Project
|
28 Tachwedd 2016
|
Dyddiad Cau'r Prosiect
|
31 Mawrth 2017
|