Pam ydyn ni`n gwneud hyn?: Fel un o drigolion, ymwelwyr neu berchnogion busnes yr ardal, mae’n debygol eich bod yn gwybod am broblemau ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n digwydd yn yr ardaloedd yma.
Dyma enghreifftiau o'r ymddygiad:
•Cysgu ar y Stryd
•Camddefnyddio cyffuriau; a meddwdod o ganlyniad i hynny
•Yfed alcohol a bod dan ei ddylanwad
Mae Heddlu Gogledd Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac asiantaethau partneriaethol wedi ceisio dod o hyd i ateb i'r broblem hon dros y blynyddoedd er mwyn lleddfu’r aflonyddwch a’r effaith niweidiol ar ansawdd bywyd y trigolion a’r rhai sydd eisiau defnyddio'r parc.
Yn Hydref 2014, cyflwynwyd Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014. Fel rhan o’r ddeddfwriaeth hon, daw'r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus. Mae hyn yn galluogi Awdurdodau Lleol i osod gwaharddiadau neu ofynion mewn mannau penodol er mwyn galluogi dinasyddion sy’n parchu’r gyfraith i fwynhau mannau cyhoeddus heb orfod dioddef ymddygiad Gwrthgymdeithasol.
Bydd y Gorchymyn newydd yn cyflwyno gwaharddiadau ychwanegol, a bydd yn galluogi Swyddogion o Heddlu Gogledd Cymru a swyddogion dynodedig o Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i ddelio’n fwy cadarn â throseddwyr ar adeg y digwyddiad. Y bwriad yw atal y rhai sy’n ystyried cymryd rhan yn y gweithgareddau a amlinellir uchod. Bydd gan y swyddogion bŵer i ofyn i bobl adael, rhoi dirwyon yn y fan a’r lle, neu riportio ar gyfer gŵys.
Beth ydym ni eisiau ei wybod?: Dyma ni felly’n cysylltu â chi fel rhan o'r broses ymgynghori angenrheidiol. Rydym yn eich annog i edrych ar y gwaharddiadau a awgrymir yn y gorchymyn amgaeedig, ac mae gennym ddiddordeb mewn gwybod beth yw eich barn ar y mater.
Bydd y cyfnod ymgynghori’n cychwyn ar 27 Mai 2016 ac yn dod i ben ar 28 Mehefin 2016, felly cofiwch roi eich sylwadau erbyn y dyddiad hwnnw. Hoffem gael unrhyw adborth ar y Gorchymyn arfaethedig, a gofynnwn ichi wneud hyn yn ysgrifenedig, gan ddweud beth yw eich rhesymau dros wrthwynebu, mewn neges e-bost i sylw:
Alison Smallwood yn contact-us@wrexham.gov.uk, neu drwy’r post at: Pennaeth Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Amgylcheddol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Wrecsam, LL13 7TU.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech gael mwy o wybodaeth am y Gorchymyn arfaethedig, gallwch gysylltu â ni yn yr uned Cymunedau Mwy Diogel ar y Cyd ar 01978 292000.
Beth ddaeth i’r amlwg: Yn dilyn ymgynghoriad Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus Canol Trefn Wrecsam ar Eich Llais Wrecsam ac ymgynghoriadau eraill wyneb yn wyneb roedd yn amlwg fod y cyhoedd yn gefnogol iawn o Orchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus ar gyfer canol y dref, ac yn gefnogol iawn o'r gwaharddiadau canlynol:
- Ymddygiad sy’n achosi aflonyddwch, braw, niwsans neu drallod
- Yfed alcohol neu feddu ar gynhwysydd agored o alcohol
- Loetran mewn cyflwr o feddwdod neu weithgarwch a achosir oherwydd cyffur
- Bwyta, yfed, anadlu, chwistrellu neu ddefnyddio sylweddau meddwol mewn unrhyw ddull arall
- Gwneud dŵr neu wneud baw
- Cysgu yng ngorsaf fysiau Stryt y Brenin nac yn y toiledau cyhoeddus yn ystod oriau’r nos
O ganlyniad i’r ymgynghori, estynnwyd ffiniau’r map er mwyn cynnwys ardaloedd eraill lle'r oedd tystiolaeth o ymddygiad gwrthgymdeithasol. Aethpwyd â chanlyniad i’r Bwrdd Gweithredol i geisio cymeradwyaeth Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus Tref Wrecsam a rhoddwyd gorchymyn mewn lle ar gyfer 1 Awst 2016.
Pa wahaniaeth mae e wedi neud?: Ers i’r GGMC gael ei roi yn ei le mae mwy na 50 o dicedi GGMC wedi eu rhoi gan Heddlu Gogledd Cymru a Swyddogion Gorfodi’r Cyngor. Bu cynnydd mewn ymwybyddiaeth o GGMC Tref Wrecsam a sut i adrodd am ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae’r GGMC wedi ei weithredu ochr yn ochr â mentrau eraill felly mae’n cefnogi’r agored i niwed gweladwy i wasanaethau adfer. Bydd adroddiad pellach yn cael ei roi i’r Bwrdd Gweithredol yn gynnar yn 2017 er mwyn diweddaru’r cyhoedd am Orchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus tref Wrecsam.
Dyddiad Cychwyn y Project
|
27 Mai 2016
|
Dyddiad Cau'r Prosiect
|
29 Mehefin 2016
|