Cynllun Rheoli Risg Llifogydd Drafft CBS Wrecsam

Cynllun Rheoli Risg Llifogydd Drafft CBS Wrecsam

Pam ydyn ni`n gwneud hyn?: 

Mae Rheoliadau Perygl Llifogydd 2009 yn gosod cyfrifoldeb ar Awdurdodau Llifogydd Lleol Arweiniol i ddatblygu cyfres o asesiadau, strategaethau a chynlluniau i reoli'r Risg Llifogydd ar raddfa leol. Er nad oes rhwymedigaeth statudol ar CBS Wrecsam i gynhyrchu'r cynllun hwn, rydym wedi cymryd y cyfle i ddatblygu’r cynllun i helpu i ddarparu dull clir a chyson o reoli perygl llifogydd ar draws y Fwrdeistref Sirol.

Beth ydym ni eisiau ei wybod?: 

Casglu sylwadau a barn budd-ddeiliaid a'r cyhoedd am y cynllun rheoli perygl llifogydd drafft a luniwyd yn ddiweddar a'r amcanion, mesurau a chamau gweithredu a gynigiwyd cyn cael cymeradwyaeth gan y Bwrdd Gweithredol. Gweler y ddogfen ymgynghori isod.

Beth ddaeth i’r amlwg: 

Ymgynghorwyd â’r cyhoedd a rhanddeiliaid ar y Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd drafft am gyfnod o 6 wythnos rhwng 7 Ebrill a 12 Mai 2016.  Cafodd yr ymgynghoriad ei wneud yn gyhoeddus drwy’r wefan www.yourvoicewrexham.net/?language=cy, a chynhyrchwyd datganiad i'r wasg ategol a gohebiaeth e-bost uniongyrchol i dros 100 o Gynghorwyr, Cynghorau Cymuned a rhanddeiliaid. Derbyniwyd cyfanswm o 18 o ymatebion ynglŷn â’r ymgynghoriad, ac roedd mwyafrif yr atebwyr yn credu fod y Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd yn cynnwys amcanion clir ar gyfer rheoli Perygl Llifogydd yn y Fwrdeistref Sirol yn y dyfodol a thynnwyd sylw at y peryglon mwyaf yn y Fwrdeistref Sirol.

Pa wahaniaeth mae e wedi neud?: 

Mae newidiadau bach wedi’u hymgorffori yn y cynllun, gan gynnwys cynllun gweithredu ychwanegol i adolygu a darparu eglurdeb o ran defnyddio, argaeledd a dosbarthu bagiau tywod. Ceir crynodeb o holiadur yr ymgynghoriad a’r ymatebion a dderbyniwyd yn Atodiad D (http://www.wrexham.gov.uk/assets/pdfs/flooding/flood_risk_management_plan.pdf) y cynllun rheoli perygl llifogydd, mae hwn hefyd yn ystyried ymatebion i gyflwyniadau unigol.

Dyddiad Cychwyn y Project 05 Ebrill 2016
Dyddiad Cau'r Prosiect 13 Mai 2016