Ymgynghoriad ar Orchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus Arfaethedig, Rheoli Cŵn a Chŵn yn Baeddu

Ymgynghoriad ar Orchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus Arfaethedig, Rheoli Cŵn a Chŵn yn Baeddu

Pam ydyn ni`n gwneud hyn?:  Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn bwriadu newid ei dri gorchymyn presennol ar gyfer rheoli cŵn -  sy’n cynnwys rheoliad ynglŷn â baeddu, parthau gwahardd a chŵn dan reolaeth drwy gyfarwyddyd – a chael un Gorchymyn Diogel Mannau Cyhoeddus yn eu lle a fydd yn cynnwys y Fwrdeistref Sirol gyfan, yn sgil newidiadau mewn deddfwriaeth gyhoeddus. Yn ogystal â chynnwys ardaloedd fel parciau, meysydd chwaraeon a mannau chwarae, gallai’r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus hefyd gynnwys ffyrdd cyhoeddus a phalmentydd.  
Beth ydym ni eisiau ei wybod?: 
Mae’r Cyngor yn awyddus i glywed gan drigolion ac ymwelwyr, i gael eu barn ynglŷn â rheoli cŵn mewn mannau cyhoeddus. Trwy ateb y cwestiynau isod, byddwch yn ein helpu i benderfynu beth yw’r dull gorau i greu’r Gorchymyn Diogel Mannau Cyhoeddus arfaethedig.

Rydym wedi darparu cwestiynau cyffredin er mwyn rhoi gwybodaeth gefndir ar gyfer yr arolwg hwn. Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal rhwng 21 Mawrth a 26 Mehefin. Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn ystyried canlyniadau’r ymgynghoriad cyn penderfynu pa ddull i’w gymryd.

Dyddiad Cychwyn y Project 21 Mawrth 2016
Dyddiad Cau'r Prosiect 26 Mehefin 2016