Gofal Cymdeithasol i Oedolion Holiadur ar gyfer Gofalyddion

Gofal Cymdeithasol i Oedolion Holiadur ar gyfer Gofalyddion

Pam ydyn ni`n gwneud hyn?:  Hoffai’r Adran Gofal Cymdeithasol i Oedolion wybod am eich profiad o fod yn ofalwr yn Wrecsam, i’n helpu i wella ein cefnogaeth i chi ac i eraill sy’n ofalwyr
Beth ydym ni eisiau ei wybod?: Fe hoffem gael gwybod am y profiadau y mae gofalyddion wedi eu cael yn Wrecsam.  Mae Gofal Cymdeithasol i Oedolion Wrecsam yn adolygu safon y cymorth y mae e’n ei roi i Ofalyddion a’r bobl y maent hwy’n gofalu amdanynt
Beth ddaeth i’r amlwg: 

Dywedodd 66 o ofalwyr di-dâl wrthym nad oeddent wedi cael cynnig Asesiad o Anghenion Gofalwyr.

Bu i nifer o ofalwyr di-dâl ddweud wrthym nad oeddent wedi derbyn y cynnig o Asesiad o Anghenion Gofalwyr.

Bu i nifer o ofalwyr di-dâl ddweud wrthym na wrandawyd ar eu barn wrth drafod anghenion y sawl a ofalant amdanynt.

Dywedodd rhai gofalwyr di-dâl nad oedd Cyngor Wrecsam wedi helpu i wella ansawdd eu bywyd, a bod mynediad at gymorth gan Ofal Cymdeithasol i Oedolion dal ddim yn hawdd;

Pa wahaniaeth mae e wedi neud?: 

Mae’r canfyddiadau yn yr arolwg hwn yn amlygu’r angen i Ofal Cymdeithasol CBSW fabwysiadu gwell systemau i godi ymwybyddiaeth am y diffiniad o beth, a phwy, sy’n ofalwr di-dâl, ac i ddeall eu profiadau er mwyn darparu’r gefnogaeth gywir, ar yr amser cywir, ledled Wrecsam.

Wrth ystyried yr ymatebion uchod o Arolwg Gofalwyr Blynyddol Wrecsam, mae Gofal Cymdeithasol Wrecsam yn cydnabod fod yr agenda gofalwyr di-dâl yn flaenoriaeth uchel.  Mewn ymateb, mae Cyngor Wrecsam wedi cael cyllid ac yn datblygu swydd newydd Swyddog Arweiniol Gofalwyr a fydd yn arwain wrth weithio’n agos gyda gofalwyr, sefydliadau a grwpiau cymunedol ar draws Bwrdeistref Sirol Wrecsam, i sicrhau bod anghenion gofalwyr di-dâl yn cael eu hystyried mewn gwasanaethau cyfredol, ac wrth ddatblygu gwasanaethau’r dyfodol.

Mae CBSW wedi ymgynghori gyda nifer o ofalwyr di-dâl, a sefydliadau partner ar draws Wrecsam, ar beth sydd angen ei ystyried wrth ddatblygu’r swydd ddisgrifiad a manylion am yr unigolyn ar gyfer y swydd.

Dyddiad Cychwyn y Project 01 Awst 2021
Dyddiad Cau'r Prosiect 31 Awst 2021